Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yn lle gwyneb tyner ei mham, gwelai wyneb llym, di-dosturi, y Miss Strait ieuengaf yn edrych yn ddigofus arni. Yn lle rhoddi blodyn llygad y dydd i'w mham, yr oedd yn estyn ei llechen at Miss Strait, megis heb yn wybod iddi hi ei hun. Ei gwaith y prynhawn hwnnw oedd ysgrifennu brawddeg,—"Teach us to be content,"—ryw ddeuddeg o weithiau ar y llechen. Ond, ymysg y llechau llawnion ddanghosid i Miss Strait, yr oedd ei llechen hi yn wâg. Yr oedd wedi colli llawer ar ei chysgu y noson cynt; poenid hi gan ddannodd. Gofynnodd Miss Strait iddi yn ddigofus paham na fuasai wedi llenwi ei llech âg ysgrifen. Yr oedd Gwenfron yn hollol eirwir, a chyfaddefodd ar unwaith ei bod wedi cysgu. Ac ychwanegodd, yn awydd plentyn i ennill cydymdeimlad,—' Mi welais mam yn fy nghwsg." Llanwodd llygaid yr eneth o ddagrau wrth gofio am ei breuddwyd, ond nid oedd gan Miss Strait le yn ei chalon i ofidiau plentyn bach. Ond gellid clywed ei llais caled yn gwaeddi geiriau yr oedd ar bawb o'r plant eu hofn,—

"Gwenfron Jones. Stand out!"

Cerddodd Gwenfron yn araf i'r lle agored oedd yn un pen i'r ystafell, a safodd yno yn fud a thrist o flaen y plant ereill.

Toc, daeth diwedd yr ysgol. Taflai y ddwy Miss Strait gip-edrychiadau ar eu gilydd. Yr oedd Gwenfron yn edrych ar y llawr, ac yn sylwi ar ddim. Ond yr oedd Ilid yn gweld y cwbl, ac yn gwybod yn rhy dda beth oedd i ddigwydd i'w chwaer fach.

'Toc, dechreuodd y Miss Strait ieuengaf lefaru, Dywedodd wrth y plant beth oedd diogi. Ac yna pwyntiodd â'i bŷs at Gwenfron, gan ddweyd,—