"Geneth ddiog." Yna tynnodd y blouse teneu oedd yr eneth yn wisgo i ffwrdd, nes oedd ei breichiau a rhan o'i chefn yn noeth. Yna cydiodd yn dynn yn ei dwy law. Daeth Miss Strait yr hynaf a gwialen hir, gan sefyll y tu cefn i'r eneth, a'i gwyneb caled at wyneb caled ei chwaer. Cymerodd amser i edrych ar yr eneth grynedig, ac yna cododd ei braich, a disgynnodd gwialenodied ar draws breichiau a chefn Gwenfron, gan adael gwrym ar ei chnawd. Disgynnodd y wialen yr ail waith, a dolefodd y plentyn,—
"O mam, mam."
Yr oedd ei llais fel pe'n gwneud i Miss Strait greuloni, a chiliodd dipyn yn ol i roddi ergyd drymach. Ond disgynnodd yr ergyd honno ar wyneb plentyn arall. Yr oedd Ilid wedi rhuthro yno, ac wedi sefyll rhwng y wialen a'i chwaer. Rhoddodd wth i'r Miss Strait ieuengaf nes yr hanner syrthiodd ar draws cader, a cheisiodd" gydio yn y wialen oedd yn llaw y llall. Wedi cael aml wialenodied ar ei wyneb a'i ddwylaw, cafodd afael yn y wialen fedw. cydiai ef yn y blaen, a Miss Strait yn y bôn, ac yr oedd tynnu caled rhyngddynt. Yr oedd y plant fel pe wedi dychrynnu gormod i wneud dim, ysgrechiai y Miss Strait ieuengaf ar uchaf ei llais.
Agorodd y drws, ac wele Mr. Wamp yn cerdded yn awdurdodol i mewn.
Gwaeddodd y ddwy Miss Strait ar draws eu gilydd pan ddaeth Mr. Wamp i mewn. "Yr eneth ddiog wedi fy insultlio," gwichiai un. "Y bachgen drwg wedi ymosod arnaf a cheisio fy nharo," dolefai'r llall.