Edrychai Mr. Wamp edrychiad creulon penderfynol. Cydiodd yng ngholer Ilid heb ddweyd gair, a llusgodd ef allan. Disgynnodd y wialen ar Gwenfron drachefn; ond am ei brawd yr oedd yn meddwl, nid am dani ei hun.
Ni welodd Ilid am dri diwrnod. Ni feiddiai ofyn dim i neb. Ofnai bopeth. Tybed a oeddynt wedi ei ladd?
Er ei llawenydd, gwelodd ef wrth y bwrdd brecwast. Yr oedd yn llwyd ac yn deneu iawn. Ond yr oedd yr eneth fach amddifad yn hapus, hyd yn oed o dan olwg y Miss Strait ieuengaf, pan deimlai fod ei brawd yn yr un ystafell a hi,
Ni ddywedai Ilid fawr o'i hanes ar y cyntaf. Ond dychmygai ei chwaer sut fu arno oddiwrth ambell frawddeg. "Mae'n gas gen i'r dyn yna,"— deuai y geiriau dros ei wefusau beunydd. Gwyddai mai Mr. Wamp oedd yn feddwl.
"Waeddais i ddim, Gwenfron," meddai dro arall. ""Yr oeddwn i wedi penderfynu y cawsai fy lladd, neu y buaswn yn marw o newyn, cyn y dywedwn wrtho fod yn edifar gennyf."
Byddai'r plant yn cael crwydro o amgylch y grounds wedi amser tê. Un prynhawn, aeth y brawd a'r chwaer i gornel bellaf y lle, gan adael y plant ereill ar ol.
"Fan yma y ces i hi waethaf, Gwenfron," ebe Ilid. " Yr wyf yn credu y buasai wedi fy lladd oni buasai iddo glywed rhyw lais."
"Rhyw lais?"
"Ie, rhyw lais." Mi dy laddaf,' ebe ef wrthyf, a tharawodd fi â'r ffon pen haearn sydd ganddo. A chyda hynny, dyma lais yn gwaeddi o rywle,—