Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"A fedrai rhywun ei adnabod yn ei fedd ?' Mi syrthiodd y ffon o'i law, mi gurodd ei liniau yn eu gilydd, a dechreuodd redeg i'r tŷ. Eis innau ar ei ol. Yr oedd yn wyn iawn. ac yn chwys dyferu. Mae rhyw ddirgelwch yn perthyn i'r lle yma, Gwenfron. Oes yma ysbryd, tybed?"

Safai y ddau blentyn, gan edrych yn syn ar eu gilydd, mor ddifrifol a phe buasent hen bobl.

Yr oedd dau ddyn yn eu gwylio yn bryderus, o ddau gyfeiriad gwahanol. Ond ni wyddent hwy, druain, ddim ond fod eu tad ymhell i ffwrdd a'u mam yn y nefoedd.

'Toc, clywai'r ddau blentyn drwst rhywun yn dod o'r coed. Ac wele wyneb gwelw, didrugaredd, Mr. Wamp yn ymddangos. Fel rheol, byddai yn weddol garedig wrth Gwenfron, ond cashai Ilid, ac yr oedd fel pe wedi penderfynu ei ladd. Eithr y tro hwn, gwenodd yn wenieithus ar llid, ac edrychodd yn hyllig ar Wenfron. 4

"Ilid," meddai, "y mae Gwenfron wedi lladrata gwnïadur arian Miss Strait. Rhaid ei chwipio â chansen. Tydi gaiff ei chwipio."

Gwynnodd gwyneb y ddau blentyn. "Os gwrthodi," hisiai'r adyn creulawn rhwng ei ddannedd, "ti gei dy chwipio gan un cryfach na fi, a bydd ei ol arnat byth. Mi wn i na cherddi mor syth wedi'r chwipio hwnnw."

"Ni tharawaf fy chwaer byth," ebe Ilid, "beth bynnag ddigwydd imi."

"Af i nol y gansen,"ebe Mr. Wamp," a'r dyn cryf. Cawn weld prun ohonoch gaiff ei chwipio, a phwy fydd y chwipiwr." A chyda threm wawdlyd, prysurodd ymaith, wedi dweyd,—"Peidiwch a symud modfedd o'r llecyn hwn."