Gydag iddo fynd ymaith, daeth dyn dieithr atynt, fel pe buasai wedi disgyn o'r awyr. Yr oedd dillad estronol am dano, ac yr oedd ei wyneb yn dangos ei fod yn dod o wlad boethach. Ond cynhesodd calonnau y ddau blentyn ato ar unwaith, ac ufuddhasant heb yngan gair pan ddywedodd,—
Blant bach, dowch gyda mi."
Tra yr oedd Mr. Wamp yn dod a chansen ddu hir i'r coed, ac adyn mawr, llofruddiog, yn ei ddilyn, yr oedd y ddau blentyn mewn cerbyd yn prysuro tua gorsaf y dref, ac wedi deall fod eu tad wedi dod yn ol.
Yr oedd y tad wedi ennill arian lawer. Ond pan ar gychwyn adref at ei wraig a'i blant, i'w cyrchu ato, taflwyd ef oddiar geffyl. Bu'n hofran rhwng byw a marw'n hir mewn pentref Awstralaidd, a neb yn gwybod pwy oedd. Yna bu am amser maith heb ddod i'w bwyll, ac ni wyddai neb beth oedd yn feddwl wrth waeddi am cei wraig ac Ilid a Gwenfron. Pan wellhaodd, daeth ar ei union i chwilio am danynt.
Dan ofal tyner eu tad, graddol enillodd y plant eu hoen a'u hapusrwydd. Pan welais hwy ddiweddaf, yr oedd y tri yn mynd i weld bedd y fam. Beth sydd burach a gwell na chariad brawd a chwaer?