Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLYFR NEST

—————————————

Ystraeon yr Hen Forwr

—————

I—Y MORWYR

BETH amser yn ol, yr oedd tad Nest yn wael. Dywedodd y meddyg wrtho fod yn rhaid iddo adael ei waith am fisoedd, a mynd i'r môr. Yr oedd i fynd mewn llong i Ynysoedd Canary, ac oddi yno i Ddeheudir Affrig, a gobeithiai y byddai awelon balmaidd y de, a gwynt iach, pur, y môr, yn dod a'i iechyd yn ol.

Nis gallai adael ei eneth fach, amddifad, gartref; gwyddai y buasai'n torri ei galon o hiraeth ar ei hol. A chychwynnodd y ddau. Ryw fore, pan ddeffrôdd Nest, teimlai'r gwely'n ysgwyd dani. chofiodd ei bod ar y môr.

Yr oedd y dyddiau'n hirion a hyfryd. Yr oedd digon o anser i edrych ar y môr. Wedi blino ar hynny, hyfryd oedd edrych ar y morwyr a'r teithwyr. Y morwyr dynnodd sylw Nest gyntaf.