Synnai mor ddeheuig oeddynt yn gwneud pob peth. Arnynt hwy yr oedd bywyd y teithwyr yn dibynnu. Yr oedd rhai yn hen, wedi gweld llawer o beryglon; a rhai'n ieuanc, ar eu mordaith gyntaf.
Ar brynhawn têg, byddai rhai o'r morwyr yn hel o gwmpas yr eneth fach, as yn dweyd ystraeon y môr wrtħi. Cymerai hen forwr tadol hi ar ei lin, a dywedai ystraeon rhyfedd; a rhoddai'r lleill, Morgan Foel, Jac Sur, neu Wil y Goes,—ambell air i mewn.
Yn y darlun acw y mae'r llong wedi gadael y Bay of Biscay tymhestlog a pherygl; er ei bod yn aeaf, y mae'n hyfryd braf ar fwrdd y llong,—oherwydd y mae'n morio ar dueddau Affrig, a'r anialwch tywodlyd poeth weithiau yn y golwg.
II.—YN UNIG YN Y LLONG.
"MAE eisio llawer iawn o honoch i yrru'r llong yn ei blaen," ebe Nest ryw nawn hafaidd, pan nad oedd dim yn y golwg ond y môr, er eu bod yn disgwyl gweld pen Pigyn Teneriffe o hyd.
"Oes, fy ngeneth i," ebe'r hen forwr, “ond mi fum i unwaith heb ddim ond fy hun mewn llong gymaint a hon, a hynny ynghanol y môr mawr.' "Mi wn i fod gennych hanes," ebe Nest, dywedwch ef."
Wel, y mae'n hanes pur ddychrynllyd, ac mi