Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

obeithiaf y medr Nest fach gysgu heb freuddwydio ar ol ei glywed. Mynd o Jamaica i Gaerefrog Newydd yr oeddym, a chawsom hin weddol braf nes oeddym wedi pasio penrhyn Florida. Yna, daeth rhyw waeledd ataf fi, a rhoddwyd fi yn fy ngwely i lawr yn y caban. Ryw noson, daeth tymhestl arswydus dros y môr, a chauodd y morwyr yr hatches rhag i'r dwfr lifo i'r caban. Ond, pan oedd y storm ar dawelu, tybiasant fod y llong yn mynd i suddo. Gollyngasant y cychod i lawr, neidiasant iddynt, a gadawsant y llong i'w thynged. Ond anghofiodd pawb am danaf fi.

Yr oedd y llong yn crwydro ar ol y dymhestl hyd y môr, a neb wrth ei llyw nac yn ei hwyliau ; a minnau'n gorwedd yn y caban, yn meddwl am gartref, ac heb wybod dim fod y llong ar fynd i lawr. Ond daliodd y llong i nofio wedi'r cwbl.

"Ond beth feddyliwch chwi oedd fy nheimladau, Nost fach, pan welwn yr amser yn hir, a neb yn dod yn agos ataf?

Codais o'm gwely, ceisiais godi yr hatches, ond ni fedrwn. Chwiliais am fwyd,—cefais ychydig gacenau celyd a dwfr. Darfyddodd y dwfr a'r bwyd yn fuan iawn. A dyna lle'r oeddwn yn y llong wâg, yn clywed dim ond rhu'r dyfroedd, ac heb wybod pa funud y suddwn i'r gwaelod. Yr oeddwn fel pe mewn bedd yn fyw; a gwelwn mai marw o newyn fyddai fy nhynged os nad ai y llong i lawr.

"Yn y tywyllwch, gwelwn lygaid tanllyd llygod anferth, a chlywais dannedd un ohonynt yn cydio yn fy nhrood. Yr oedd gennyf ddigon o nerth i luchio rhywbeth atynt, i ddangos iddynt fy mod yn fyw. Nid oedd gennyf nerth i ddim