arall ond i weddio ar Dduw fy arbed, er mwyn fy nau blentyn bach ac er mwyn Iesu Grist.
"Cefais fyw i ddweyd yr hanes wrth fy nau blentyn wedi hynny. Y mae'r ddau'n forwyr yn awr, ac ar y môr.
"Ryw fore, clywais lais dyn. Llais garw pysgotwr oedd, ond ni chlywais lais pereiddiach erioed. Cyn hir, clywais sŵn troed ar ddec y llong. Curais a'm holl egni; ond, gwae fi! clywn hwy'n mynd i ffwrdd. Curais wedyn. Clywais lais yn dywedyd,—
"Beth sydd odditanom?'
Llygod, ebe llais arall, 'gad inni fynd oddiyma, rhag i'r llong suddo.
"Curais a'm holl egni wedyn. Ac O lawenydd, clywn hwy'n codi'r drws. Cariasant fi i'r cwch, yr oeddwn mewn llewyg erbyn hyn, ac aethant a fi i'r lan i Boston."
"Hwre!" ebe Wil Goeshir,"dacw'r Pigyn!" A rhedodd pawb i'w weld.
III.—YMLADDFA A MORFILOD
"A WELSOCH chwi forfil erioed?" ebe Nest wrth yr hen forwr ryw nawn, pan oeddynt wedi ymgasglu fel arferol ar y dec, a'r llong yn rhedeg yn rhwydd ac esmwyth tua'r de.
"Gweld morfil? Do, ac ni anghofiaf mohonynt byth. Pan oeddwn i yn yr hen long Medusa, fe fu morfilod yn ymladd â'r llong."