Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar hyn, gan dybied fod yr hen forwr yn tynnu ar ei ddychymyg, cododd Wil y Goes ei ben i fyny, a chwarddodd chwarddiad uchel, cras, i ddangos ei anghrediniaeth.

Wil, fy ngwas i," ebe'r hen forwr, "ni welaist ti gymaint a fi. Dim ond y gwir wyf fi'n ddweyd." Siglodd Wil ei hun yn ol, dan chwerthin mwy nag erioed, nes oedd ei draed yn codi oddiar y dec, a'i gap bron syrthio oddiar ei ben; ac ebai ef yn wawdus,—

"Morfil yn ymosod ar long! Ha ha!”

"Taw, bellach," ebe'r hen forwr, "nid morfil ddywedais i, ond morfilod. A chofia fod pob un o'r rhai hynny dros gan troedfedd o hyd."

"Dowch a'r hanes," ebe Nest, "waeth heb wrando ar William y Goes: fedr ef wneud dim ond gwaeddi neu chwerthin."

"Na fedr, fy ngeneth i, a 'does dim synwyr yn ei waeddi na'i chwerthin ychwaith. Yr oedd yr hon Fedusa ar ei ffordd o Gaerefrog Newydd i Jacksonville, yn Florida. Yn union wedi i ni basio Sandy Hook, rhedodd y llong i ganol twrr o forfilod mawr. Clywais y llong yn taro yn erbyn un ohonynt, ac yn llithro megis drosto, ac yntau'n suddo. Cyn hir, daeth i'r golwg drachefn, ac yr oedd yn chwythu gwaed i fyny i'r awyr, a gwelsom fod asgwrn ei gefn wedi ei dorri." "Mi gredaf fi hynny," ebe Morgan Foel, "mi ges i beth tebyg. Yr oeddwn i ar agerlong Syr John Bull, yn mynd i fyny'r Neil ryw dair blynedd yn ol. Gwelsom afon farch (hippopotamus) enfawr yn dod i'n herbyn, ac nid oedd bosibl i ni ollwng cwch i lawr tra'r oedd o'n cwmpas. Ai o'n blaen