Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o hyd, gan ddangos ei hen gefn mawr, gwlyb, budr, ambell i dro. Yr oedd Syr John Bull wedi colli ei amynedd yn lan, rhoddodd holl nerth yr ager ar y llong, a dyna lle'r oedd y creadur mawr yn mynd ei oreu o'n blaenau. O'r diwedd, daeth y llong hyd iddo, a chododd bron o'r dwfr wrth lithro dros ei gefn. Ni welsom ef mwy; rhaid ei fod wedi ei ladd."

"Ie," ebe'r hen forwr, "ond nid oeddwn i wedi gorffen f'ystori. Yr oedd chwech o'r morfilod ger Sandy Hook. A phan welodd y pump arall waed y chweched, aethant ymaith ar ffrwst. Ond dyma hwy'n dod yn eu holau, gan ruthro a'u holl gyflymdra trwy'r tonnau, a thaflu eu hunain yn erbyn y llong a'n holl nerth. Crynnodd a siglodd y llong drwyddi, taflwyd y teithwyr oddiar eu traed gan y tarawiad, ac yr oeddym ninnau wedi dychrynu. Yr oeddym yn mynd ein gorau, ond drachefn a thrachefn hyrddiodd y morfilod gwallgof eu hunain yn erbyn y llong. Yr oedd y merched yn gwaeddi, a rhai ohonynt mewn llewyg, a ninnau'n gyrru'r llong ymlaen dan bob hwyl oedd ganddi. Ond yr oedd yr ymosodiad yn mynd yn fwy egwan o hyd. Yr oedd rhai o'r morfilod wedi anafu eu hunain yn fawr, ac yn dod yn llawer mwy araf na chynt. Ond yr oedd yn dda iawn gen i eu gweld yn syrthio'n ôl yn y pellder, a ninnau'n cyflymu o'u cyrraedd."

"A welsoch chwi hwy wedyn?" ebe Nest.

"Naddo, fy ngeneth i. Yr oedd arnaf ofn mynd y ffordd honno wedyn, rhag ofn iddynt fy adnabod. Yr oedd gennyf barch iddynt hefyd; y mae pethau mawr felly, fel rhyw fodau llai, yn teimlo dros eu gilydd."