Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Morgan Foel ar gychwyn dweyd ystori arall; ond ar hynny, dyma dad Nest yn galw arni, i esbonio iddi beth oedd croesi'r cyhydedd. Yr oedd y cyhydedd yn ymyl. Yno y mae'r haul boethaf, ac yno y mae'r dydd a'r nos o'r un hyd.

IV.—YR ALBATROSS.

YR oedd y llong, erbyn hyn, wedi gadael y cyhydedd ymhell o'i hol, ac yn morio rhwng Penrhyn Gobaith Da ac Awstralia. Dywedodd yr hen forwr lawer ystori wrth Nest. Nid oedd hi yn blino gwrando; ac yr oedd Morgan Foel, a Jac Sur, a Wil y Goes, yn gwrando ar bob un.

Ryw nawn, pan oedd yr hen forwr ar ganol rhyw ystori, clywent sŵn—rhyw hanner gwaedd, hanner ysgrech,—yn yr awyr uwchben. Edrychasant i fyny, a gwelent, rhwng hwyliau'r llong, aderyn anferthol ei faint. Yr oedd ei gorff yn wyn, a'i adenydd yn dduon.

"Edrychwch, Nest," ebe'r hen forwr, "dacw'r albatros.

"A wna hi rywbeth inni?" ebe Nest, wedi brawychu tipyn wrth weld yr aderyn mawr.

"Na wnaiff, fy ngeneth. Dacw gyfaill gorau'r morwr; mae lwc yn dod gyda hi bob amser. Oni bai am dani hi, buasai fy esgyrn i'n gwynnu ar graig, filoedd o filltiroedd oddiyma, lle na welai neb byth mohonynt."

"Sut y bu hynny?"