Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, arhoswch chwi, y mae pymtheg mlynedd ar hugain er hynny. Yr oeddwn i yn y llong Anna, yn mynd o Lerpwl i New Zealand. Pan oeddym ynghanol Môr yr India, daeth ystorm arswydus a gyrrodd ni i'r de. Buom yn rhedeg felly am ddyddiau lawer; aethom heibio ynysoedd Amsterdam a St. Paul; collasom bob meistrolaeth ar y llong, ac aethom fil o filltiroedd beth bynnag ymhellach na llwybr yr un llong. A rhyw fore, tarawodd y llong ar graig oedd yn codi o'r dwfr. Suddodd ymhen yr hanner awr, ond achubwyd ni i gyd,—pymtheg ohonom,—a medrasom fynd a llond casgen o ddwfr a pheth ymborth i'r graig. Cawsom rai pethau o'r llongddrylliad wedyn hefyd, ond fod dwfr y môr wedi eu hamharu."

"Mae o'n amharu pob peth," ebe Jac Sur.

"Ond beth oedd hynny i bymtheg o ddynion ar y graig? A beth oedd o'n blaenau ond marw o newyn? Ond, yn rhyfedd iawn, ryw ddiwrnod, daeth albatros atom, mae'n rhaid eu bod yn fwy dof yno,—a medrodd un ohonom ei dal. Yr oedd rhai am ei lladd, a'i bwyta. Ond yr ydym ni'r morwyr yn meddwl na ddaw lwc i neb o ladd yr albatros. A beth a wnaethom ond ysgrifennu ar ddarn o grys gydag indian ink oedd ym mhoced un ohonom, i ddweyd lle yr oeddym, a rhoddasom hwnnw am goes yr albatros, a gollyngasom hi. Ehedodd ar ei hunion i'r gogledd; a gobeithiem yn erbyn gobaith y gwelai rhywun y darn llian oedd am ei throed.

"O'r oeddych chwi'n unig, ar graig ynghanol y môr mawr felly," ebe Nest, a dagrau yn ei llygaid. "Oeddym, ac yr oeddym yn teimlo'n fwy unig nag erioed wrth weld yr aderyn yn diflannu yn y