Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pellder. Yr oedd dau fachgen ieuanc gyda ni,—dau frawd, ac yr oeddynt yn hoff iawn o'u gilydd. Yr oeddym ni'n credu mai'n ateb i'w gweddi hwy y daeth yr albatross. Yr oedd arnaf ofn mai hwy fyddai'r cyntaf i farw o ludded a newyn ac oerfel. Ond, er rhyfeddod i ni i gyd, cadwyd eu bywyd hwy i'r diwedd. O'r pymtheg, syrthiodd saith ohonom y naill ar ôl y llall i'r môr. Yr oedd yn oer iawn, ychydig o ddwfr oedd yn aros, a thrwy fwyta ambell i bysgodyn marw deflid ar y graig y cawsom fyw. Yr oedd y tir bron iawn a darfod; yr oedd gobaith byw wedi diflannu'n lân; ond yr oedd y ddau fachgen rheini'n dal i weddïo o hyd."

"Wel ie," ebe Nest, "yr oedd Duw yn eich gweld yn y fan honno" Oedd. Ymhen y mis wedi i ni golli'n llong, ar ryw fore, dyma un o'r brodyr yn gwaeddi. Dacw long. Ac yn siŵr, yr oedd yno long. Codasom ddilledyn gwyn ar ben polyn; a gallwch feddwl mor falch oeddym o weld y llong yn dod ar ei hunion atom, a gobaith bywyd gyda hi."

"Ai ar ddamwain y daeth?" gofynnai Wil y Goes.

"Nage, llong wedi ei gyrru o Adelaide i'n hachub oedd. Cafwyd yr albatross ar y lan yn farw, a'r darn llian am ei throed, fel pe buasai wedi ehedeg dros fil filltiroedd bwrpas i'n hachub. Anfonodd y Llywodraeth long ar unwaith i chwilio am danom, gwyddent hwy am y creigiau, ac felly achubwyd y gweddill oedd yn fyw ohonom. "Ffrynd y morwr oedd yr albatross honno beth bynnag," ebe Nest. "A 'does arnaf fi ddim ofn honacw'n awr."