V—CYD-FORWR PERYGL
"A WELSOCH chwi shark, yr hen forwr ?" ebe Nest.
"Morgi? Do 'n siwr."
"Ble gwelsoch chwi o?"
"Ar fwrdd llong."
Chwarddodd Jac Sur yn uchel iawn ar hyn. "Jac," ebe'r hen forwr, "paid ti a meddwl dy fod di wedi gweld pob peth. Mi welais i forgi ar fwrdd llong."
"Ie, wedi ei ladd."
"Nage, yn fyw."
"Dowch a'r stori, y stori," ebe Nest.
"Wel, yr oeddwn i yn y llong Gwylan, ac yr oeddym ar ein ffordd o Java i Lerpwl. Pan ym Môr yr India, daeth tymestl o wynt ofnadwy i'n cyfarfod. Ti wyddost, Morgan, am wynt y dwyrain yno."
"Gwn, 'n dyn i."
"Wel, mi sgubodd y môr dros y llong. Wedi iddi godi, mi glywem y sŵn fflapio mwyaf glywodd neb erioed. Tybiodd y capten fod hwyl yn rhydd, a gwaeddodd arnom chwilio ar unwaith. Ond beth oedd yno ond morgi anferth, dros saith troedfedd o hyd, yn ymlafnio'n gynddeiriog hyd fwrdd y llong. Beth pe gwelsit ti'r safn a'r dannedd! Ond, trwy drugaredd, yr oedd yn haws delio a fo ar y llong na phe buasem gydag ef yn y dŵr. Ond ni choeliet ti byth gymaint o guro fu ar ei ben cyn iddo lonyddu. Ond llonyddu fu raid iddo."