Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI.—Y DERELICT

"YR hen forwr, beth yw derelict ?" ebe Nest un tro.

"Llong wedi ei gadael ynghanol y môr, yn nofio o fewn ychydig i'r wyneb, heb neb i'w llywio, yw derelict. Ysgerbwd du nofiadwy'r derelict yw prif ddychryn y morwr."

"Welsoch chwi un ?"

"Do, y gaeaf diweddaf un. Yr oeddwn mewn llong teithwyr fawr, y Veenden, yn rhedeg rhwng Rotterdam a Chaerefrog Newydd. Yr oedd ynddi 127 o deithwyr, a chriw o 85. Ar ganol nos, pan dybiem ni fod y môr yn rhydd o'n blaen, tarawodd y Veendem yn erbyn derelict. Torrodd y llong asgwrn ei chefn, a dyma'r dŵr yn rhuthro i mewn. Rhedasom at y pympiau, ond gwelsom na fedrem wneud dim. Dechreuodd y llong suddo'n araf araf, ond sicr.

"Yn ein cyfyngder, gwelem long fawr, y St. Louis, llong Ffrengig gwelodd hon ein harwyddion cyfyngder. Daeth atom, a gollyngodd gychod i lawr. Yr oedd yn loergan lleuad lawn, a medrem weld pob peth. Baban ollyngwyd i'r cwch i ddechrau, yna ei fam. Yna awd a'r teithwyr i'r St. Louis o un i un; yna'r criw; a'r capten, wrth gwrs, oedd yr olaf i adael y llong. Prin yr oeddym wedi cyrraedd y bwrdd na welem yr hen Veendem yn mynd i lawr o'r golwg am byth. Moriodd y St. Louis yn araf rhag ofn iddi hithau daro yn erbyn y derelict. Clywais fod Bwrdd