Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Masnach Prydain wedi anfon llong i chwilio am y derelict, i geisio ei chwythu'n dipiau, neu ei gyrru i'r gwaelod."

Dywedodd Nest yr hanes wrth ei thad, ac yr oedd mewn ofn mawr rhag i'r llong daro wrth dderelict. A dywedodd ei thad fod ambell ddyn a dynes yn dderelict yn y byd, wedi colli eu cymeriad, ac yn berygl i rai'n meddwl cael mordaith deg trwy fywyd.