Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ystraeon y Dyn Unig.

I.—Y DYN UNIG

YMYSG pobl y llong yr oedd dyn a golwg unig iawn. Byddai bob amser ar ei ben ei hun. Er fod pawb arall yn siarad yn gyfeillgar a'u gilydd, yr oedd ef yn osgoi pawb. Meddyliai Nest ei fod yn wael, yr oedd golwg flinedig arno, yr oedd ei wyneb yn welw a'i ddwylaw yn aflonydd. Ond, bob yn ychydig, gwelai fod y môr yn ei iachau. Eisteddai'n fwy llonydd ar y bwrdd, ac yr oedd ambell wen yn dod i'w wyneb. A rhyw ddiwrnod, gofynnodd i Nest a'i thad a oeddynt hwythau yn chwilio am iechyd.

Ar ol hynny, eisteddai Nest yn ei ymyl ar fwrdd y llong yn aml. Ac o ddydd i ddydd, dywedai'r gŵr unig ei hanes.

"Yr oedd gennyf eneth fach anwyl fel y chwi, Nest fach," meddai. "Ond bu farw yn bump oed, ac y mae ei bedd mewn mynwent yn y mynyddoedd. Yr oedd ei mham wedi ei rhoi yno i huno o'i blaen hi. Ac yr oeddwn innau'n teimlo'n unig iawn. Ni wyddwn i ba le i fynd, na pha beth a wnawn. Crwydrais o un lle i'r llall, heb amcan yn y byd. Ryw ddiwrnod, yr oeddwn yn Llundain, a gwelais wraig yn wylo'n chwerw wrth adrodd ei hanes wrth swyddog, a hwnnw'n methu rhoi fawr o