Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymorth iddi. Gofynnais a fedrwn i wneud rhywbeth. Dywedodd hithau mai wedi colli ei geneth fechan yr oedd, a'i bod mewn pryder mawr. Ymroddais innau i chwilio am yr eneth, a chefais hi. A pheth rhyfedd oedd llawenydd y fam a'r ferch pan yn cwrdd. A thybiwn innau,—Tybed ai fel hyn y bydd yn y nefoedd pan fyddaf fi'n cwrdd âg Enid fach wedi'r holl grwydro ?

"O hynny allan, dyna fu'm gwaith,—sef chwilio am blant coll. Chwiliais am gannoedd, a'r rhan amlaf medrais ddod a hwy'n ol i freichiau eu rhieni. A phob tro y gwelwn eu llawenydd, tybiwn mai felly y byddai yn y nefoedd pan gyfarfyddwn Enid fach. "Ni wyddoch chwi, Nest, mor greulon y gall dynion fod, na faint mae plant yn orfod dioddef. Yn yr hen amser, byddai dynion yn dyfeisio'r poenau mwyaf erchyll. Dioddefodd y merthyr ei losgi ar dân araf, dioddefodd llawer tyst ei ddadgymalu ar yr arteithglwyd. Yn naeargelloedd y Chwilys y bu'r dioddef mwyaf ond odid,—dioddef wnai ddyn yn wallgof cyn ei ladd. Rhaid croesi at y Twrc cyn clywed am flingo dynion yn fyw. Ofnalwy yw meddwl am ddynion yn cael pleser drwy wylio dioddefiadau rhai ereill.

Trwy drugaredd, y mae arteithio wedi diflannu o gyfraith gwledydd gwareiddiedig erbyn heddyw. Ond y mae gan y creulon ffyrdd eto i lenwi enaid ei ysglyfaeth ag ing. Un o'r ffyrdd gwaethaf yw clwyfo rhieni trwy eu plant. Dywedodd un barnwr Prydeinig yn ddiweddar na ddanghosai ef rithyn o drugaredd at y creulondeb mwyaf dirmygus,—arteithio mam trwy boenydio ei phlentyn.