Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffug-chwedlau, Ystoriau, &c., gan wahanol awdwyr.

Yr Hen Ddoctor:

Y Ffug-chwedl enwog o waith IAN MACLAREN (Parch. John Watson, D.D.), wedi ei Chymreigio (trwy ganiatad) gan R. H. JONES. Gyda. 17 o Ddarluniau. Llian, 2/-

"The Welsh reader who commenres to read the book will not be able to

lay it down till he comes to the last page."—Liverpool Daily Post and Mercury.

"Hen gymeriad godidog oedd Dr. Mac Lure."-Lladmerydd.

Ifor Owain:

Ffug-chwedl hanesyddol am Gymry yn amser Cromwel. Gan y Parch. ELWYN THOMAS. Llian, 1/6. Amlen, 1/-

"Chwedl dda iawn; mae'r cymeriadau wedi eu tynnu'n rhagorol. Dylai ein darllenwyr ei phrynnu a'i darllen, rhydd bleser iddynt."—Y Beirniad.

"Stori yn llawn dyddordeb byw o'r dechreu i'r diwedd. Y mae'r plot yn un celfydd, a hwnnw wedi ei weithio allan yn fedrus a hapus." —Llais Rhyddid.

Cit:

Ystori i Blant, gan FANNY EDWARDS. Darluniau. Llian, 1/-

Ystori fechan syml, naturiol, a darllenadwy iawn yw 'Cit.' Ysgrifenned yr awdures lawer ychwaneg o'r cyfryw lyfrau. ... Dylai pawb ddarllen 'Cit,' ac nid ystyriwn fod neb yn dilyn yr oes mewn llenyddiaeth Gymraeg os na wna hyn.—Y Glorian.

Gwilym a Bennni Bach:

Ystori am Ddau Blentyn, gan W. LLEWELYN WILLIAMS, M.A., M.P. Llian, 1/

"A charming story."-Manchester Guardian.

"Llawn o ddigwyddiadau digrifol ac amrywiol."—Y Gwyliedydd.

Gorchest Gwilym Bevan:

Ffug-chwedl gan T. GWYNN-JONES, awdwr "Gwedi Brad a Gofid," Bardd Cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902. Amlen, 1/-

"Ysgrifenna yr awdwr yn llithrig a byw. Ceir fod naturioldeb a swyn yn y llyfr. Wedi dechreu ei ddarllen, bydd yn anhawdd ei roi o'r neilldu nes ei orffen."—Tywysydd y Plant.

"This is a novel of exceptional merit."—The Christian Life.

Llithiau o Bentre Alun:

Gan Mrs. S. M. SAUNDERS. Cyfres o Ystoriau Crefyddol yn cael eu hadrodd yn null anghymarol S.M.S. Llian, 1/-·

"Yn neuddeg golygfa y llyfryn prydferth hwn, darlunir gweddau crefyddol ar anghrefyddol y bywyd Cymreig gyda deheurwydd. ... Cyffyrddir ynddo a holl dannau y teimlad dynol."—Yr .Athraw.

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.