Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. Y BACHGEN TAIR OED

"AR GOLL, bachgen tair oed. Collwyd ef o dŷ ei rieni trallodedig tua phum munud wedi saith nos Sadwrn. Yr oedd maen geni wrth ben ei lygad chwith."

TUA dwy awr ar ol i'r rhieni anfon yr uchod, gyda'u cyfeiriad, i'r papur newydd, yr oeddwn wrth eu drws. Yr oedd yn amlwg i mi oddi wrth yr hysbysiad eu bod yn dad a mam gor-hoff a, gor-ofalus o'u plentyn. Y munud y gwelais hwy, cadarnhawyd hyn yn fy meddwl. Dau heb fawr o allu meddyliol oeddynt, ond gwelais eu bod ynghanol llawnder, ac mai eu plentyn tair oed oedd goleuni y tŷ,—gwelwn ei deganau costfawr ym mhob cyfeiriad.

Bum beth amser yn methu cael dim gwybodaeth glir. "Peidiwch galaru," ebe fi, er mwyn eu tawelu, "bydd yn hawdd cael eich bachgen oherwydd y maen geni oedd ar ei ael." Ond wylo'n chwerwach a wnaethant; a sylwodd y