Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fam, rhwng ei hocheneidiau, eu bod wedi bod yn galaru am dair blynedd fod yr anurdd hwnnw ar wyneb y bachgen. "Pe buasem wedi diolch mwy am dano, yn lle gofidio fod y maen geni ar ei dalcen, meddai, "buasai Rhagluniaeth wedi ei adael inni." Ceisiais ei chysuro trwy ddywedyd mai ar gyfer adeg gyfyng o'r natur yma y rhoddasai Rhagluniaeth y marc ar ei wyneb; a fod hynny'n arwydd sicr y ceid ef yn ol.

Llwyddais i'w tawelu o'r diwedd, a chefais y wybodaeth oedd arnaf eisieu. Penderfynais ar unwaith mai nid lladron plant cyffredin a'i lladratasai, a fod un o'r morwynion yn gwybod rhywbeth am ei ddiflaniad. A chefais yr hanes hwn,—gadawyd cyfoeth mawr i'r wraig, oherwydd fod cefnder iddi wedi digio eu modryb. Ni adawyd i hwnnw ond busnes digon di-ennill, oedd yn gofyn mynd yn ol a blaen yn aml rhwng Llundain a Fenis. Yr oedd ar y gŵr a'r wraig ofn y cefnder,—gŵr caled a dichellgar iawn oedd, ebe hwy. "A'r bachgen oedd yr unig beth rhyngddo a'r arian", ebe'r wraig, gan ail dorri i wylo.

Mynnais weld y morwynion a'r gweision, a chefais ddarluniad ganddynt hwy o'r cefnder. Y peth nesaf oedd edrych a oedd gartref. Colli amser fuasai mynd i chwilio. Troais yn sydyn at y forwyn a amheuwn, a gofynnais iddi'n ddisymwth,—"Lle mae Mr. Marks?" Wedi ei thaflu oddiar ei gochel gan sydynrwydd y cwestiwn, atebodd,—Wedi mynd i Fenis."

Yr oedd y trên nos gymerai ef newydd fynd. Ond gwyddwn y medrwn ei gyfarfod ym Milan trwy gymeryd ffordd arall fwy costus.