Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nawn drannoeth, yn lluddedig ddigon, yr oeddwn yng ngorsaf Milan. Diflannodd fy lludded i gyd mewn eiliad wrth weld dau ddyn a phlentyn yn mynd i drên Fenis. Dyn tal, gyda thrwyn a llygaid eryraidd oedd un,—ie, Mr. Marks oedd. Gŵr byrr, cydnerth, oedd y llall, gyda thalcen bychan, trwyn ysgwâr, a phen crwn fel bwled. Yr oedd cadach dros lygad chwith y plentyn.

Eis i'r un cerbyd a hwy. Dechreuodd y plentyn ystrancio; ac yr oedd yn amlwg na wyddai yr un ohonynt sut i drin plentyn. "Eisio tynnu'r cadach, eisio mynd at mami a tada,"—dyna ddau fyrdwn ei wylofain. Yr oedd y plentyn yn mynd yn feistr glân arnynt, er ei fygwth a'i guro. Er mwyn cael siarad â hwy, cynhygiais eu helpu. Gofynnais a gawn ei roi i gysgu; rhoddais feddyglyn iddo, yr oeddwn am iddo fod yn effro y nos wedyn os oedd fy nghynllun i lwyddo. Cyn pen pum munud, yr oedd y bachgen yn cysgu'n dawel ar lin y gŵr byrr, ac yr oedd hwnnw yn ei ddal fel pe buasai'n beiriant dynameit ar fin ffrwydro, ac nid fel y bydd y cyfarwydd yn cydio mewn baban.

Daethom yn dipyn o gyfeillion. Dywedodd y tal du eu bod yn mynd a'r bachgen at ei fam i Trieste; a chyfaddefodd y byrr,—fel pe buasai eisieu cyfaddef,—nad oeddynt fawr o law ar drin plentyn. Yr oedd y bachgen yn dal i gysgu pan gyrhaeddasom Fenis. Aethom yn yr un gondola; a chawsom ein bod yn mynd i'r un gwesty. Erbyn hyn, yr oeddwn yn credu nad oeddynt am ladd y plentyn; ond tybiwn yn sicr nad oeddynt yn meddwl i'w dad a'i fam ei weld byth mwy. Ei gyfoeth, er na wyddai ef ddim am dano, oedd