Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

perygl y bachgen; a'r maen geni ar ei ael, er na phoenodd ef erioed ynghylch hwnnw, oedd y peth tebycaf o ddod ag ef yn ol i ddedwyddwch ac at ei fam.

Y noson honno, yr oedd fy ystafell wely i ar gyfer eu hystafell hwy. Ystafell ddau wely oedd eu cysgle hwy, ond nis gwn gyda pha un ohonynt yr oedd y bachgen. Gwyddwn y cawn wybod cyn hir.

Deffrodd y bachgen o'i gwsg hir pan oedd pawb arall yn dawel. Yr oedd yn newynog, yn groes, ac mewn lle dieithr. Gwaeddai dros bob man am ei fam a'i dad, ac am dynnu'r cadach. Ceisiai ddau ei dawelu; yna clywais hwy'n tyngu. Toc, dyma gnoc ar fy nrws; a daeth y gŵr hir i mewn, a'r bachgen yn cicio ac yn gwaeddi yn ei freichiau. Yr oedd y gŵr byrr yn dal y ganwyll y tu ol, a golwg hanner effro arno. Teflid cysgod y gŵr hir ar y mur gyferbyn, ac yr oedd golwg ddu, frawychus, arno fel cysgod lofrudd.

"A fedrwch chwi ddim rhoi rhywbeth i'r cythgam bach yma eto," meddai," iddo gysgu dan y bore? Y mae rhai'n meddwl y gall plentyn gysgu o hyd. "Medraf," meddwn innau, "gadewch ef i mi." Diolchodd y ddau o waelod eu calon, ac aethant ar ffrwst i'w gwelyau'n ol; a chyn pen pum munud, clywn gyd-chwyrnu hyfryd.

Gwisgais am danaf gynted y gallwn. Nid oeddynt wedi tynnu am y bachgen; ac edrychai arnaf gyda llygaid mawr agored, gan fwyta teisen roddaswn iddo, yn rhy brysur i wylo yn awr. Tynnais y cadach oddiam ei ben, er mawr foddhad iddo; a gwelwn y maen geni yn eglur. Aethom