allan ein dau, talais y bil i'r porthor nos; a chyn torri gwawr y bore, yr oedd hanner gwastadedd gogledd yr Eidal rhyngom a'r ddau gysgadur.
Daeth y bachgen a minnau'n gyfeillion mawr ar y ffordd; ac yr oedd y croesaw gawsom yn ei gartref y tu hwnt i bob terfyn,—yr oedd yno wylo a chusanu, a chusanu a wylo, am oriau.
Ni fynnent roi'r peth yn llaw'r gyfraith, ac ni ddywedasant air wrth neb yn lle cafwyd y bachgen. Ymhen hir a hwyr, mentrodd y cefnder yn ei ol. Tybed ei fod yn credu mai breuddwydio ei fod wedi lladrata'r bachgen a wnaeth?
Mae gofal y rhieni am y plentyn yn fwy nag erioed. Byddaf yn gorfod mynd yno yn awr ac yn y man i ddangos fy mod ar gael eto, os bydd taro. Mae'r bachgen yn tyfu'n fachgen braf; ac, er mai ychydig o allu sydd yn ei rieni, bydd yn fuan iawn yn hen ddigon cyfrwys i edrych ar ei ol ei hun. Os ceisia'r tal du ei ddrygu eto, caiff weld ei fod wedi taro wrth ei drech.
III-GENETHIG CHWECH OED, GWALLT EURAIDD HIR
"AR GOLL, genethig chwech oed, gwallt euraidd hir, o'r enw Irene Lee, yn siarad Saesneg ac Eidaleg. Het wellt wen, a rhosyn coch arni; blouse gwyn a ffrog las; esgidiau melynion. Gwelwyd hi ddiweddaf fore Sadwrn, yn y Piazza Cavour, a'i gwyneb tua'r porthladd, &c."