Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Anfonwyd y Nice Courrier i mi gan gyfaill o Genoa, a'r hysbysiad uchod ynddo. Dywedai fod pawb yn cydymdeimlo 'n ddwys â rhieni'r eneth gollasid,—Saeson cyfrifol yn byw yn Genoa. Yr oeddis wedi chwilio'n ddyfal am bythefnos, ond heb gael syniad i ble'r aethai hi.

Cyrhaeddais Genoa ar fore Mawrth yn Ebrill, ond ni chafodd tlysni diarhebol traeth Liguria yrru fy neges o meddwl. Deallais yn union eu bod wedi cyfyngu eu hymchwiliadau i'r porthladd prysur, oherwydd mai ar y ffordd yno y gwelwyd yr eneth ddiweddaf. Ond nid oedd bosibl cael pen ei llwybr yno.

Wedi holi a chwilio, daethum i'r penderfyniad nas gallai drwg fod wedi digwydd liw dydd, yn heolydd llawnion Genoa, i blentyn. Rhaid ei bod wedi mynd i ffwrdd gyda'r trên, ac o'i bodd.

Holais y teulu am ei dull. Un serchog iawn oedd, a hynod hoff o'i thad a'i mam, ac o'i chwaer ieuengach. Nid oedd ganddi fryndiau ond yn Genoa. "Ond, wrth gofio," ebe ei mam, bu arni hiraeth mawr ar ol Margaret Hermann." Deallais mai morwyn oedd y Fargaret honno, droisid o'i lle am ladrad, er ei bod yn eneth weithgar a deallus iawn. Almaenwyr oedd ei theulu, ond yn byw yn rhywle yn Naples. Yr oedd wedi lladrata dros ugain punt; ond ni erlyniasid hi, oherwydd serch y plant ati, ac oherwydd ei gwasanaeth.

Cerddais drannoeth heibio'r gwyliwr ar ffordd y Mura della Cava. Yr oedd of wedi gweld llawer dwy yn ateb i'm desgrifiad; ond, erbyn holi, nid oedd efe yn gwylio y diwrnod hwnnw. Eis ymlaen i orsaf Sturla, yr agosaf at orsaf Genoa.