Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cefais ben y llwybr yno; yr oedd merch ieuanc a genethig Saesneg wedi codi tocyn i Livorno. Cyrhaeddais Livorno gyda'r trên cyntaf, a chefais eu hanes yn cael cwch ar eu hunion i fynd i Naples. Gynted y gallwn, yr oeddwn innau yn Naples hefyd, ac yna collais pob craff arnynt.

Bum yn cerdded am ddiwrnodau; a theimlwn yn sicr fod Irene Lee yn fy ymyl yn rhywle. Ryw nawn, pan oeddwn yn synfyfyrio ger y Bau, gofynnodd rhywun i mi yn Saesneg faint oedd o'r gloch.

Troais ac edrychais, a gwelais mai Margaret Hermann ac Irene Lee oedd yno. Tybiai Irene, druan, mai ei mam oedd wedi peri i Margaret ddod a hi i'r ysgol yn Naples. Ond ni wn i hyd y dydd heddyw prun ai cariad at yr eneth, ynte awydd dial ar ei mham, yw'r gwir esboniad ar waith yr Almaenes.

IV.—BACHGEN PUMP OED, GWALLT DU, LLAES, LLYGAID GOLEU

"AR GOLL, bachgen pump oed, gwallt du, llaes, llygaid goleu; mewn dillad morwr. Gwelwyd ef ddiweddaf wrth ddrws tŷ ei dad, Rhagfyr 23, tua phedwar o'r gloch. Rhoddir gwobr dda am unrhyw hysbysrwydd yn ei gylch i'w rieni trallodedig."

Yr oeddwn wedi meddwl treulio Nadolig tawel yn Antwerp, ond dyma'r hysbysiad welais yn y papur yn gyntaf peth wrth fwyta fy mrecwest y