Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diwrnod cynt. Aeth y peth imi ar unwaith mai fi, a myfi'n unig, fedrai ddwyn Nadolig llawen i'r teulu trallodedig hwnnw, oedd yn sylweddoli ing tad wrth golli ei fab.

Curais wrth y drws. Cefais fy hun mewn cartref cysurus, wedi ei barotoi at lawenydd y Nadolig, pan fyddai'r bachgen yn bump oed. Cefais y tad yn nyfnder ei anobaith; danghosodd lythyr imi a wnaeth i'm gwaed fferru o'm mewn am eiliad.

Ond dyma'r hanes yn fyrr. Gŵr o bentref bychan Meer oedd Jan van Steen, wedi dod yn gysurus trwy ddiwydrwydd mawr yn Antwerp, ac wedi priodi geneth harddaf ei ardal enedigol. Eu mab hwy oedd Jan bychan, a gollesid y diwrnod cynt. Yn cyd-chware â'r tad adeg plentyndod ym Meer yr oedd bachgen drwg a chreulon o'r enw Witt, drodd yn ofer iawn. Cashai Jan van Steen oherwydd ei rinwedd, ei lwyddiant, ac yn enwedig oherwydd iddo briodi Margaret,— yr hon a'i gwrthodasai ef gyda dirmyg. Tyngodd wrth Jan y chwerwai ef ei gwpan, a bu am flynyddoedd yn chwilio am ei gyfle. Ond y, peth oedd wedi gyrru dychryn i galon y tad, druan, oedd cael y llythyr hwn y bore hwnnw,—

"Jan Van Steen, y mae'r amser o'r diwedd wedi dod Y mae gweled dy ddedwyddwch wedi gwneud diafl ohonof. Yr wyf yn mynd i uffern heddyw, trwy'r Scheldt. Gwnaf y ddaear yn uffern i tithau tra byddot arni. Ni weli dy fachgen byth mwy, ond bydd yn agosach atat yfory nag y medri gredu. Bydd yn gweddio gyda thi bore yfory, ac yn hiraethu am dy weled yn fwy nag erioed. Byddi di yng nghanol llawnder, bydd yntau'n newynu i farwolaeth. Lle bynnag y byddai fi yfory, nis gallaf ddioddef mwy nag y rhaid i ti a dy fachgen ddioddef. Mwynha'th Nadolig.

Gyda chasineb dy elyn,
PIERRE WITT."