Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ceisiais ddarbwyllo'r tad mai dychmygion diystyr dyn wedi ynfydu oedd y llythyr; ond gwelais yn union ei fod yn gwybod digon am Pierre Witt i gredu pob gair. A chyda hynny, daeth cennad i ddweyd fod corff Witt wedi ei godi o'r Scheldt.

Eis i lawr at yr afon ar fy union. Yr oedd corff Witt wedi oeri, yr oedd wedi marw ers oriau. Chwiliasom ei bocedi,—yr oedd heddgeidwaid Antwerp yn fy adnabod yn dda. Nid oedd gwaed ar ei gyllell; ac yr oedd cap y bachgen, weithiasai ei fam iddo, ym mhoced yr adyn. Ond nid oedd dim ond hynny i'm rhoddi ar y llwybr; ac mewn penbleth mawr safwn uwchben y wyneb hagr, mileinig marw, gan ofidio nas gallai siarad, i mi gael rhyw awgrym.

Eis yn ol i geisio cysuro'r tad a'r fam, wedi rhoddi'r heddgeidwaid ar waith, ond nid oedd dim yn ymgynnyg i'n meddwl. Ond tybed a oedd rhyw feddwl i'r llythyr, ynte gwallgofrwydd noeth oedd? Ac wrth droi'r peth yn fy meddwl, gofynnais i'r tad, megis ar fy nghyfer,—

"A wnaethoch chwi ryw gam â Witt erioed ?" Naddo," meddai. "Ond, pan oeddym yn blant ym Meer, sarhaodd y wraig yma, a rhoisom ninnau ef yn y twll tywyll tan lawr yr eglwys."

Pelydrodd goleuni i'm meddwl, a gofynnais yn awchus,

Ple'r oeddych wedi meddwl treulio'r dydd yfory?"

"Yn ein hen gartref, yr oedd ar fy mam gymaint o eisieu gweld y bachgen." Wedi dweyd hyn, aeth teimladau'r tad yn chwilfriw mân; a syrthiodd