ei feddwl, druan, i ebargofiant llewyg. Gelwais ar ei was ato: yr oedd gennyf fi waith arall, ac yr oedd rhywbeth yn dweyd wrthyf nad oedd gennyf funud i'w golli.
Yr oedd M. Koft, y cudd-heddgeidwad, yn fy nghyfarfod yn y drws. Ysgydwodd ei ben yn drist, nid oedd ganddo obaith. Gelwais am gerbyd, darn lusgais M. Koft iddo, a dywedais wrth y gyriedydd am yrru nerth carnau'r march i gyfeiriad Meer. Yr oedd y pellder yn ddeng milltir ar hugain, newidiasom geffylau tua chanol y ffordd, ac yr oedd dydd byrr Rhagfyr yn tynnu i'w derfyn pan gawsom ein hunain wrth yr hen eglwys.
Yr oedd goleu ynddi, ac yr oedd yn llawn o blant nwyfus, pawb yn gwneud ei ran i'w phrydferthu erbyn drannoeth. Gofynnais i'r hen dorrwr beddau gwargrwm a gawn fynd i lawr i'r crypt.
"O cewch," meddai, "ond y mae'n oer iawn yno, ni fu neb i lawr ers llawer dydd, ond y marw."
Cawsom lusern. Yr oedd y grisiau'n llaith wyrdd. Ond yr oedd ol traed diweddar yn amlwg arnynt. Curai'm calon yn gyflym, a thybiwn ein bod oes yn cyrraedd y gwaelod. Twll du, brawychus, oedd,—ond yr oedd yn hollol wag. Er hynny',—ai dychymyg oedd?—tybiwn glywed anadliad gwan, methedig.
Gwelwn bob man ond un gornel y tu hwnt i biler. Eis yno,—a daeth popeth yn glir. Yr oedd cauad arch wedi ei roddi ar ei led orwedd yn erbyn y piler. Ac wedi ei strapio ar hwnnw yr oedd y bachgen pump oed,—adnabum ef ar unwaith, oherwydd nid yn aml yr a gwallt du a llygaid goleu gyda'u gilydd. Yr oedd cadach wedi ei rwymo am ei