Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enau fel nas gallai siarad. Yr oedd eto'n anadlu. Ni chollasom eiliad cyn ei ryddhau; ac mewn llai na deng munud, yr oedd mewn gwely cynnes yn nhŷ ei nain. Dywedai'r meddyg y buasai'n byw tan ganol dydd drannoeth pe gadewsid ef fel yr oedd yn y crypt—yr oedd yr adyn wedi trefnu iddo fod ym mhangfeydd ei ddioddef pan fyddai ei dad a'i fam yn diolch uwch ei ben am eni eu Ceidwad.

Nid oes gennyf ond un peth i'w ddweyd eto,—yr oedd y Nadolig hwnnw yn un dedwydd wedi'r cwbl i'r fam a'r tad a'r plentyn a gollesid. Ac yr oedd yn un dedwydd i minnau yn Antwerp.

V—Y MYFYRIWR CRWYDREDIG.

UNWAITH, cefais siomedigaeth fawr. Cafwyd y colledig cyn i mi gael dechreu chwilio. Ac fel hyn y bu.

Yr oedd bachgen o Ddeheudir Cymru, mab i deulu parchus iawn, wedi ennill ysgoloriaeth yn Rhydychen. Daeth adeg ei arholiad terfynol am anrhydedd,—amser pryderus iawn i bob efrydydd.—yn agos. Yr oedd yr arholiad yn dal llawer ar ei feddwl, er nad oedd wedi gwastraffu dim o'i amser. Dywedodd ei athrawon wrtho am gymeryd wythnos o seibiant o flaen yr arholiad; thybiasant ei fod wedi mynd adre.

Daeth dydd cyntaf yr arholiad, ond nid ymddangosodd ef. Pellebrwyd at ei deulu, ond