nid oedd neb yn ei gartref wedi ei weld er dechreu'r term. Yna, bu pryder mawr, gartref ac yn ei goleg. Chwiliwyd yr afonydd, ceisiwyd gwynt ar ei lwybr i bob cyfeiriad, ond ni ddaeth dim o'i hanes i'r golwg. Sonnid am fechgyn yn cael eu hud-ddenu i gelloedd yn Llundain, i'w hysbeilio a'u llofruddio, lle llosgid y cyrff i guddio'r erchyll-waith. Ofnai ei dad a'i fam bob peth, ac nid oedd ball ar eu hymchwil.
O'r diwedd, anfonasant ataf fi, a phrysurais innau i Rydychen i geisio olrhain pen llwybr y colledig. Ond gydag i mi osod fy hun yno, cefais bellebyr oddiwrth y tad i ddweyd fod y mab wedi ei ddarganfod.
Ryw fore, daeth llythyr oddiwrtho, o ryw le bychan pellennig ar yr afon Saskatchewan, ym mhellderoedd Canada. Daeth adre, a dywedodd ei hanes. Nid oedd yn cofio dim nes cael ei hun mewn lle o'r enw Battleford, dyna'r enw, yr wyf yn meddwl,—ar gyffiniau eithaf gwareiddiad. Nid oedd wedi meddwl am grwydro felly, nac wedi breuddwydio am wneud; ac ni ŵyr eto pam na pha fodd yr aeth.
Gwn i am aml dro tebyg, ac yr wyf yn credu ei stori bob gair. Pe cai dwymyn, deuai hanes y daith, yn ôl pob tebyg, i'w gof. Yr oedd ganddo flwyddyn arall i efrydu, a graddiodd yn anrhydeddus iawn. Y mae'n awr yn ŵr defnyddiol, ac heb ddim awydd trafaelio.