Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI.—MAB Y WRAIG WEDDW

GOFYNNODD cyfaill i mi fynd i bentref bychan yn Lloegr i chwilio am fab i wraig oedd wedi gweld llawer o drallodion, ac oedd yn awr ymron a cholli ei synnwyr oherwydd hiraeth.

Yr oedd wedi bod mewn amgylchiadau cysurus iawn unwaith,—mewn cartref llawn a dedwydd gyda'i gŵr ac un plentyn. Gwraig garedig, hollol ddiddichell, yn credu'r goreu am bawb oedd. A phlentyn serchog, tebyg iawn i'w fam, a theimladau dwys, oedd Frank

Bu'r tad farw, a gadawodd ddigon i'r wraig fyw arno, a digon i roi Frank ar ben llwybr bywyd. Ond, ymhen amser, llwyddodd un arall i ddenu sylw'r weddw. Gŵr mawr, hardd oedd, a chudyn hir o wallt melynddu'n taflu allan o bob cefn. Yr oedd duwioldeb a dyngarwch yn llond ei siarad, a gallasech feddwl mai er mwyn y diamddiffyn yr anfonwyd ef i'r byd. Swynwyd mam Frank ganddo'n lân, a phriododd ef. Yna yr oedd eu harian, a Frank, at ei drugaredd.

Yn fuan iawn trodd y gŵr yn greulawn, a thriniai Frank a'i fam fel pe buasent gŵn. Daeth morwyn hagr yno o rywle, a thri o blant bryntion anrasol. Caent hwy bob danteithion, ond ni chai Frank ond rhyw grystion adawent.

Ystori brudd ydyw, ond rhaid i mi ei dweyd. Trwy gelwydd a brad, profodd y gŵr creulon mewn llŷs cyfraith ddigon i gael gwared o'r wraig a Frank, a phriododd y forwyn. Aethant hwythau, y ddau ddiniwed, i fyw i fwthyn bychan gerllaw.