Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oeddynt yn dlodion iawn; ond yr oedd cydymdeimlad eu cymdogion gyda hwy, a chawsant lawer o garedigrwydd oddiar eu llaw. Yr oedd gŵr y whiskers a'r ffug ddyngarwch, a'r forwyn hagr oedd yn ail wraig iddo, yn cashau y fam a'r plentyn. Yn aml iawn y mae'r erlidiwr yn cashau'r erlidiedig, fel pe buasai wedi gwneud cam ag ef trwy oddef ei greulondeb; ac y mae'n ddiamau fod gan y blaidd ddigon o resymau yn ei feddwl ei hun dros gashau'r oen. Nis gallai y gŵr barfog a'r forwyn oddef edrych ar y ddau y gwnaethant gymaint o gam â hwy, a hiraethent am gyfle i'w poeni.

Ryw fin nos, collwyd Frank. Yr oedd, erbyn hyn, yn saith oed, ond yr oedd wedi cael cymaint o gamdriniaeth fel nad edrychai yn hŷn na rhyw bedair a hanner. Yr oedd ei fam wedi bod yn cusanu gofidiau er adeg ei hail briodas, lladdodd y golled hon hi'n lân. Ni chredai y deuai ei bachgen yn ôl; a sylwyd cyn hir ei bod yn peidio wylo, a fod ei llygaid yn hollol ddiddagrau wrth dywallt ei chwynion.

Anfonodd cyfaill am danaf fi. Clywais yr hanes uchod i gyd. Y mae gennyf ryw ragfarn di-sail yn erbyn mutton chop whiskers, y mae gennyf ragfarn ar sail adnod yn erbyn y sawl fydd yn pregethu ei rinweddau ei hun. Teimlwn yn sicr mai gan y gŵr creulon yr oedd Frank, ond ym mha le? Chwiliais am dair wythnos, nos a dydd bron, ond nid oeddwn ddim agosach.

Tarawodd peth newydd i'm meddwl wrth wrando ar rywun yn dweyd fod Mr. Whiteman,—dyna enw'r dyn,—yn cadw mwy o gŵn ac ieir nag erioed,