a'i fod yn gwneud llawer o arian oddiwrthynt. Dywedasant hefyd ei fod wedi ffraeo â'r meddyg ynghylch ei werthasai iddo.
Ryw ddiwrnod, deuais i'r pentref yn ôl, wedi gwneud fy hun mor debyg i feddyg hoff o ddiod ag y medrwn; a chymerais lety yn y dafarn. Aeth y si ar unwaith fod doctor newydd wedi ymsefydlu yn y pentref.
Ymhen dau ddiwrnod, daeth Mr. Whiteman i ofyn i mi a ddeuwn i weld bachgen claf oedd yn gadw o dosturi. "Ond cofiwch," meddai, beidio dweyd gair am dano wrth neb. Dyngarwch sy'n gwneud i mi roi llety iddo; ac y mae hanner pleser gwneud daioni yn colli os caiff y byd wybod fy mod yn ei wneud."
Dilynais ef at ei dŷ—tŷ ddylasai fod yn eiddo Frank,—ac i'r cefn, lle yr oedd sŵn cyfarth a sŵn clochdar ieir. Yno, mewn math o feudy, ar wely gwellt, gorweddai bachgen ieuanc gwelw. Yr oedd ei esgyrn drwy ei groen bron; ond yr oedd rhyw loywder serchog yn ei lygaid wrth edrych yn erfyniol arnaf.
"Fy machgen," ebe fi, "beth a gefaist i'w fwyta heddyw?"
"Ches i ddim heddyw na ddoe," ebai, gyda chipedrychiad ofnus at y dyn, "ond byddwn yn arfer cael y darnau o gig a bara wrthodai'r cŵn bach."
Cuchiodd gwyneb y dyn yn erwin, a gofynnodd rhag i'r llanc ddweyd ychwaneg,—
Beth sydd arno?
"Newyn," ebe finnau, gan edrych ym myw ei lygad.