Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond cyn i mi holi ychwaneg arni, yr oedd y cinio drosodd, a rhyw filwr wedi dod i'w chyrchu i ran arall o'r neuadd. Bum yno am oriau lawer, a'r peth olaf wyf yn gofio yw'r ddawns. Yn ystod honno, daeth yr enethig ataf wedyn, ac estynnodd fodrwy i mi,-

"Rhoddwch hon," meddai,"i fy mam.' Yna dawnsiodd ymaith drachefn. Edrychais ar y fodrwy, yr oedd rhuddem amhrisiadwy yn ei llygad, ac wrth i mi syllu ar y cochder dwfn, tlws, daeth cwsg ataf.

Yn y bore deffroais. Teimlwn yn oer iawn. Yr oeddwn yn eistedd ar un o ffenestri toredig yr hen neuadd fawr ynghanol yr adfeilion. Ai breuddwyd oedd y cwbl ynte? Nage, oherwydd yr oedd modrwy a rhuddem yn ei llygad yn fy llaw.

Cyflymais i'r plas. Edrychai y gŵr a'r wraig arnaf gyda rhyw drem nas gallwn ei ddeall, rhyw bryder na welais ei debyg mewn rhieni plant colledig erioed o'r blaen. Gofynnais a oedd ganddynt ddarlun o'r eneth. Oedd. Gofynnais iddynt ei roddi ymysg amryw ereill o ddarluniau genethod o'r un oed. Gwnaethant hynny. Yn y sypyn darluniau gwelais ddarlun yr enethig a'm cymerasai i'r wledd. Gofynnais,

"Ai hon yw eich merch? "

Atebasant mai ie. Yna dywedais, gan wylio eu gwynebau,

" Rhoddodd y fodrwy hon i mi i'w rhoddi i'w rhoddi i'w mam.

Edrychodd y ddau'n graff ar y fodrwy, ac ocheneidiasant. Ond yr oeddwn yn tybied fod sŵn gollyngdod yn yr ocheneidiau.