Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eneth i neuadd y castell. Pan ofynnais hynny, gwelwn yn amlwg eu bod yn cadw rhywbeth yn ôl. Er hynny, prysurais i'r castell, rhag colli dim amser. Tybiwn y gallai fod yr eneth fach wedi syrthio i ryw hen ffynnon sych, neu ei bod mewn ystafell ddirgel, ac yn newynu.

Eisteddais yn adfeilion ystafell y porthor. Yr oedd yn noson dymherus, a chofio mai canol gaeaf oedd. Dechreuais gynllunio beth i'w wneud; a mwyaf yn y byd feddyliwn, anhawddaf yn y byd oedd fy nhasg. Nis gallwn feddwl am ddim ond chwilio yr hen gastell; ac ofer iawn fuasai i un anghyfarwydd ei chwilio wedi nos, tra yr oedd rhai cyfarwydd wedi chwilio pob cornel liw dydd. Tra yr oeddwn ynghanol fy syn-fyfyrdod, wele eneth fechan dlos, a llusern yn ei llaw, wrth ddrws yr ystafell. Yr oedd wedi ei gwisgo yn nillad adeg Rhyfeloedd y Rhosynau, ac ebe hi,—

"Yr ydych chwi yn chwilio llawer am blant, dyma blentyn wedi dod i chwilio am danoch chwi. Mae'r wledd yn barod. Deuwch."

A chyda gwen swynol, trodd ei sawdl. Dilynais hi, ac arweiniodd fi trwy ystafelloedd llawn o filwyr yn pendwmpian ger tanau coed,—oll yn nillad dur y bymthegfed ganrif. Toc, daethom i neuadd ardderchog, a rhoddwyd fi i eistedd ar un o'r ffenestri, wrth ochr y bwrdd. Ni welais le mor ysblennydd erioed,—y torchau uchel, y gwŷr a'r gwragedd yn eu dillad rhyfedd, a sylwais fod yno lawer iawn o blant. Eisteddai yr enethig a'm gwahoddasai yn fy ymyl; a phan ddywedais fod yno lawer o blant, atebodd,-

"Oes, y mae un yn dod yma bob blwyddyn ers pedwar can mlynedd. Myfi ddaeth ddiweddaf."