Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII.—AERES Y CASTELL

DYWEDAIS fy mod unwaith wedi methu'n lân, ac y mae y tro hwnnw yn ddirgelwch i mi byth.

Yn union o flaen y Nadolig oedd hi, amryw flynyddoedd yn ôl. Gofynnwyd i mi fynd i blas ger hen gastell enwog. Y mae'r hen le yn adfeilion,- y neuadd ardderchog heb do ond dros rannau o honni, a'r grisiau aneirif sy'n arwain i'r gwahanol ystafelloedd wedi dechreu malurio. Hen adfail mawreddog ydyw, ond mwswgl ac eiddew ac ambell goeden dalfrig yw ei unig breswylwyr,-o leiaf dyna syniad pawb cyn y tro yr wyf yn mynd i adrodd am dano.

Yn ymyl yr hen blas, codwyd tý newydd gan y perchennog, ac yno yr oedd ef a'i wraig a'i blentyn, gyda llu o weision a morwynion, yn byw. Yr oeddwn yn deall eu bod yn gyfoethog iawn; a hawdd oedd dyfalu hynny oddiwrth y gerddi, y chwarau-leoedd, a'r perllannau oedd o gwmpas adfeilion toredig du yr hen gastell.

Cyrhaeddais yno gyda'r nos. Yr oedd yr eneth ar goll,-aeres y cwbl, geneth seithmlwydd oed. Aethai i neuadd yr hon gastell ei hun y noson cynt, a diflannodd megis pe buasai'r ddaear wedi ei llyncu. Yr oedd wedi bod yn yr hen neuadd o'r blaen, ac wedi crwydro llawer ymysg yr adfeilion, ond erioed heb famaeth gyda hi.

Aeth dau beth a fy sylw. Yn un peth, dychryn, ac nid galar, oedd y peth amlycaf ar wynebau'r tad a'r fam. A pheth arall, ni fynnent esbonio paham yr anfonid y famaeth bob amser gyda'r