Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II.—CARLAMU TRWY'R TAN

Y MAE tymlestl o wynt ac eira'n beth digon gerwin yn ein hinsoddau gogleddol ni, ond nid yw ond megis dim wrth yr ystormydd o dân fydd yn ysgubo weithiau dros wastadeddau crinion sychion Awstralia. Gwae i'r neb fyddo ar eu llwybr; llosgir diadelloedd o ddefaid, a gyrroodd o wartheg, yn lludw mewn ychydig eiliadau; syrth coed mawrion, ir, a thai cedyrn, megis llwch i'r llawr dan anadl boeth ddeifiol yr oddaith ofnadwy.

Yr oedd gwraig fferm dair milltir o'r dref wedi dod i Warragul a dau blentyn bach gyda hi. Yr oedd Mr. Loader, ei gŵr, a geneth fechan deirblwydd oed, wedi aros gartref.

Y noson honno, ysgubodd ystorm dân dros y cartref yn y wlad. Gwelodd y tad a'r plentyn y tân yn cau o'u cwmpas, a'r coed tal o gwmpas y tŷ yn dechreu llosgi. Dechreuodd y tŷ losgi hefyd, a rhoddai'r tad bob gewyn ar waith i geisio cadw rhyw lecyn yn nodded i'r plentyn. Ond yr oedd yn mynd wannach, wannach; yr oedd gwres a thanbeidrwydd y tân bron llethu'r tad a'r plentyn. O'r diwedd, cofiodd y tad am y pydew. Cymerodd ei blentyn yn ei freichiau, rhuthrodd trwy'r tân, a. chyrhaeddodd wyneb y pydew. Ac yno y cawsant nodded, a'r goelcerth ofnadwy yn ei hafiaeth uwch eu pennau.

Pan wawriodd y bore, gwelai'r cymdogion y mig du'n codi o'r cartref, a'r flamau'n dal i herio goleu dydd. Aeth cymdogion yno ar feirch. Rhoddodd un Mr. Fowler wisg ledr am dano, a