Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

charlamodd i ganol y tân. Prin y gobeithiai neb ei weld yn dod yn ol yn fyw. Ni welai yntau ond tân a lludw ym mhobman. Ond, pan ar droi i ffwrdd, gwelodd rywbeth llosgedig megis yn codi o'r pydew. Carlamodd yno, a chafodd y plentyn yn ddianaf ym mynwes y tad; a'r tad bron yn ddall, ac megis ar drengu.

Tynnodd Mr. Fowler ei wisg ledr, a rhoddodd hi am y plentyn. Yna rhoddodd hi o'i flaen ar ei gyfrwy; a gwelai ei gymdeithion y dyn dewr yn carlamu allan megis o ganol y tân. Mentrodd ef ac un arall yn eu holau, a rhyngddynt, medrasant ddod a Mr. Loader allan yn fyw.

Y rhyfedd ydyw, mewn ystorm mor ofnadwy o dân, na chollwyd yr un bywyd dynol. Ond yr oedd y meirch a'r gwartheg a'r moch a'r defaid oll wedi llosgi'n golsyn.

Sŵn rhyfel sydd yn y byd y dyddiau hyn, a llawer yn meddwl mai rhyfel yw'r lle i ddangos dewrder. Ond, onid canwaith mwy gogoneddus yw'r dewrder sy'n cadw bywyd mewn heddwch na'r dewrder sy'n dinistrio mewn rhyfel?

II.—DRINGO MYNYDDOEDD

UN o'r pethau mwyaf perygl yw dringo mynyddoedd, ond y mae rhyw swyn rhyfedd yn y gwaith. Y mae gogoniant yn y gwaith hefyd. Hir y cofir am y gŵr safodd gyntaf ar ben Mont Blanc.