Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae y peryglon bron yn anarluniadwy. Yr haf diweddaf, collodd Owen Glynne Jones, dringwr mynyddau enwog, athraw o'r Abermaw, ei fywyd wrth geisio dringo y Dent Blanche, yn yr Alpau.

Yr oedd pedwar ohonynt,—Jones, Hill, a dau arweinydd. Yr oeddynt wodi dringo yn uchel hyd wyneb ia llithrig, ac yr oedd y rhaff gref yn eu cysylltu wrth eu gilydd. Yr oodd talp o graig o'u blaenau, ac yr oedd yn rhaid iddynt fynd drosti.