Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth geisio dringo hwnnw, syrthiodd yr arweinydd cyntaf i lawr ar gefn Jones a'r arweinydd arall, ac ysgubwyd y tri dros y dibyn ofnadwy. Teimlai Hill ei hun yn cael ei dynnu ar eu holau; ond yr oedd carreg rhyngddo a'i gyfeillion, a throdd y rhaff am honno. Torrodd y rhaff, gadawyd Hill yn ei noddfa berygl, a gwelai'r Cymro a'r ddau Swisiad yn disgyn i'r dyfnder odditanodd.—eu dwylaw diymadferth yn estynedig, a'r rhaff yn eu cysylltu o hyd. Trwy beryglon anhygoel, medrodd Hill gyrraedd yn ol; ac aeth mintai ddewr i chwilio am y dringwyr, ond heb obaith eu cael yn fyw.

IV—YN YR EIRA

LAWER o fywydau gollwyd adeg ystormydd o eira mawr. Ond nid yr eira sy'n lladd. Mae llawer wedi byw dyddiau o dan eira; ac y mae defaid yn byw felly beunydd. Yr oerfel sydd yn lladd,—y gwynt miniog yn fferru'r gwaed, a'r eirwlaw rhewllyd yn arafu curiadau'r galon. Bum droion mewn ystorm eirwlaw oedd ar fy rhwystro i anadlu. Bydd yn ystorm eira mawr yng Nghymru weithiau. Ar yr Arennig bu dyn yn mynd a llond car o wair i'r defaid; a chyn pen ychydig funudau, deuai ystorm i guddio'r car o'i olwg â llen o eira.

Yn yr America, y mae'r tywydd yn llawer mwy eithafol nag yn ein gwlad ni,—yn eithafol oer yn y gaeaf ac yn eithafol boeth yn yr haf. Yn yr America, y mae'r amaethwr yn gorfod ceisio tynnu adref gerfydd rhaff.