Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V.—TON YN ACHUB BYWYD

MAE ynys fechan o graig, a elwir Craig yr Esgob, ger ynysoedd Scilly. Rai blynyddoedd yn ol, adeiladwyd goleudy arni, yn gyfarwyddyd ac yn rhybudd i'r llongau aml sy'n hwylio gyda glannau deheuol ein hynys. Pan godid y goleudy, yr oedd mab yr arch-adeiladydd yn edmygu gwaith ei dad. Un diwrnod tawel, clir, collodd ei draed a syrthiodd. "Nis gall dim. ei achub," ebe'r gweithwyr, dan ddal eu hanadl. Yr oedd y goleudy yn uchel iawn, a dim ond craig odditanodd.

Ond, pan oedd y bachgen yn disgyn, daeth ton anferth o rywle o'r Werydd, a chyrhaeddodd waelod y tŵr. Syrthiodd y bachgen yn ddianaf ar ei bron meddal, cludwyd ef ychydig i'r môr, a nofiodd yn ol heb fod ddim gwaeth.

Dywedai'r gweithwyr mai dynar unig don orchuddiodd y graig y diwmod hwnnw.

Y mis diweddaf, syrthiodd un o wŷr y goleudy, ond nid oedd ton garedig rhyngddo ef a'r graig, a drylliwyd ef.

VI.—YMDRECH AR YMYL DIBYN

Yn y mis diweddaf, yr oedd teithiwr o Wyddel yn disgyn i lawr hyd lethrau peryglus Monte Rosa, un o bigynau yr Alpau. Yr oedd ganddo ddau arweinydd, Swisiaid, tad a mab. Yr oedd y