Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tri wedi eu rhwymo wrth eu gilydd,—y mab wrth un pen i'r rhaff, y teithiwr yn y canol, a'r tad wrth y pen arall. Tra'n dringo dros yr ochrau, syrthiodd y ddau flaenaf,—y teithydd a mab yr arweinydd,— dros ymyl y clogwyn. Ond medrodd y tad gael gafael mewn carreg fawr.

Felly, yr oedd dau o'r tri dyn yn crogi gerfydd y rhaff uwchben dibyn erchyll, dros ddeng mil o droedfeddi o uchder. Yr oedd y llall yn eu dal. Ond am faint y medrai gewynau ei freichiau adael iddo eu cadw?

Gwyddai y mab gymaint oedd y pwysau ar freichiau, ei dad. Medrodd, rywsut, tra'n crogi'n ol ag ymlaen wrth y rhaff, gydio yng ngwyneb y graig. Dringodd i lawr ar hyd-ddi, o glogwyn i glogwyn; a phrysurodd, yn archolledig, a'i fywyd mewn enbydrwydd bob eiliad, i chwilio am gymorth. Gwyddai beth oedd yn adael ar ol.

Yr oedd y teithiwr eto'n grogedig wrth y rhaff. Yr oedd ei goes ddehau wedi ei thorri, ac ni fedrai wneud dim i'w achub ei hun. Daliai'r arweinydd fry ei afael yn y rhaff, a'i draed wedi eu gosod yn erbyn carreg ar fin y dibyn ofnadwy. Daliodd felly am saith awr. Yna teimlodd fod breichiau cryfion yn cymeryd lle ei freichiau lluddedig ef. 'Tynnwyd y teithiwr i fyny i ddiogelwch. Daeth pawb yn Alagna i gyfarfod y tad a'r mab dewr i'w croesawu.