Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII.—TAITH BERYGLUS

YN ystod y flwyddyn ddiweddaf, hysbyswyd fod sêr dieithr i'w gweld ar noson neilltuol. Er mwyn cael yr olwg oreu arnynt, penderfynodd seryddwyr o ymyl Rhydychen fynd mewn awyren i fyny i'r awyr glir y tu hwnt i'r cymylau. Fin nos, acthant i gerbyd yr awyren, a gollyngwyd hi oddiwrth y ddaear. Ymsaethodd hithau i fyny, a thaflasant gydaid ar ol cydaid o dywod o honi, er mwyn prysuro ei hesgyniad drwy'r cymylau. Cododd yn gyflym trwy'r cymylau, er mor drwchus oedd eu plygion llaith o'i hamgylch. Yna arafodd, mewn awyr deneu ac oer a iach, ymhell uwchlaw cwmwl a daear. Yr oedd oerni llaith y cymylau wodi gwneud i'r nwy oedd yn yr awyren fynd yn llai o swm; crebychodd hithau, a thrymhaodd, a gorffwysodd heb godi ychwaneg.

Daeth y bore, a disgynnai pelydrau'r haul ar yr awyren yn gynnes mewn bro ddigymylau. Wrth gynhesu, ymchangai'r nwy, ysgafnhai'r awyren, a chodai'n gyflym yn uwch fyth i'r entrych. Yna, deallodd y seryddwyr, er eu braw, fod y llinyn oedd yn disgyn i lawr i'r cerbyd o'r awyren, i ollwng nwy, yn gwrthod gweithio. Ofer fuasai ceisio dringo ochr pelen yr awyren yn yr uchder mawr hwnnw. Wrth ollwng nwy y gwneir i'r awyren ddisgyn. Rhaid i'r teithiwr fedru gwneud i'r awyren esgyn a disgyn yn ol ei ewyllys, er mwyn medru mynd y ffordd y mynno. Os bydd arno eisiau teithio i'r gogledd, esgyn neu ddisgyn hyd nes yr êl i wynt yn chwythu yn y cyfeiriad hwnnw. Os bydd arno eisiau troi