Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r dwyrain, esgyn neu ddisgyn drachefn. Ac weithiau cwyd uwchlaw y ffrydiau o wyntoedd croesion i gyd, er mwyn cael hofran uwch y byd mewn unigedd tawel a distaw.

Ond nid oedd gan y seryddwyr y soniais am danynt reolaeth ar eu hawyren. Teimlent eu hunain yn codi'n chwyrn o hyd. Toc, er fod y cymylau oedd ôdditanynt wedi clirio, gwelent y ddaear yn graddol newid. Am hir gwelent y ffyrdd fel llinynnau gwynion, meinion. Ac yna ni welent ond llecyn. gwyrdd wrth edrych i lawr.

Tua chanol dydd, daethant i ffrwd o wynt oedd yn chwythu'n gryf tua'r gorllewin. Teimlasant eu hunain yn teithio'n gyflym i'r cyfeiriad hwnnw. Buan y sylweddolasant eu perygl. Beth pe buasai'r awyren yn syrthio i'r môr?

Yr oedd y nos yn dod. Gwlychid ac oerid yr awyren. Ym mhle y disgynnai? Ysgrifenasant lythyr arol lythyr i'w taflu i lawr, i rybuddio gwylwyr glannau'r moroedd i sylwi ar yr awyren, ac i anfon llong i hwylio o dani os ai wrth ben y môr. Ond gobaith gwan oedd i neb gael y llythyrau mewn pryd. Syrthiai rhai ar y mynyddoedd a rhai ar y caeau; siawns oedd i un syrthio i dref neu dramwyfa pobl. Cyn iddi dywyllu, gwelent liw'r ddaear yn newid. Yn lle gwyrdd daeth glas. Bron na pheidiodd eu calonnau guro gan fraw. Yr oeddynt uwch ben y môr.

Ni chysgasant hunell y noson honno, Disgynnodd gwlaw oer, a fferrodd hwy. Teithiai'r awyren yn gyflym tua'r gorllewin o hyd. Yr oeddynt yn sicr, oherwydd yr oerni a'r gwlaw, ei bod yn disgyn hefyd.