Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi nos hir. gwawriodd y bore. Er eu llawenydd, gwelsant eu bod uwchben y tir sych, a'u bod yn llawer agosach i'r ddaear. Gwelsant mai Sianel Bryste oedd y môr a groesasent, a'u bod yn awr yn teithio uwchben glan ddeheuol Deheudir Cymru. Yn y prynhawn, gwelsant y môr drachefn, a bron na suddodd eu calonnau o'u mhewn. Ond cyn eu hyrddio i'r môr dros bentir Dyfed, trodd y gwynt yn sydyn i'r gogledd. Yr oedd yr awyren yn graddol ddisgyn, ac yn rhywle yn sir Benfro, tarawodd y cerbyd yn erbyn coeden; llusgwyd ef ymlaen ar draws gwrychoedd hyd nes y daliwyd yr awyren gan dderwen dalfrig. Ysgytiwyd tipyn ar y teithwyr, ac anafwyd un yn bur drwm, ond anghofiasant bopeth,—y sêr hefyd,—yn eu llawenydd wrth deimlo eu traed ar y ddaear galed. Cawsant luniaeth a chynhesrwydd yn nhai rhai o amaethwyr caredig Dyfed; ond y mae'n sicr nad anghofíìant eu taith beryglus hyd y bedd.

VIII.— YMDAITH NEWYN

YN ystod y gaeaf a'r gwanwyn diweddaf, cawsom ni dywydd digon oer; bu gwynt miniog y dwyrain yn cadw'r claf a'r blodau'n ol am hir. Yn yr India ar yr un pryd yr oedd Newyn yn teyrnasu.

Yr oedd y gwlaw wedi peidio dod yn ei amser. Yr oedd yr holl ffynhonnau wedi sychu. Yr oedd pobl yn gyrru anifeiliaid hyd welyau sychion yr