Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afonydd, a merched yn taenu dillad i sychu ar beth fuasai unwaith yn waelod llyn. Yr oedd y wlad wedi troi yn llwch cochlyd, yrrid gan y gwynt.

Y mae tlodi ac angen yn y pentref. Y mae'r bwyd wedi darfod. Y mae popeth oedd yn y tŷ wedi ei werthu i dalu am yr ychydig fara prin. Os oedd yno hen addurniadau arian, neu hen lestri pres cerfiedig, neu flychau o bren aroglus, y maent oll wedi mynd. Tŷ gwâg sydd yno,—popeth wedi mynd i gael bwyd. Ac y mae Newyn yn aros yno o hyd. Ac o ddrws agored teml gerllaw, y mae eilun coch fel pe'n gwawdio dioddefiadau ei addolwyr.

Y mae'r teuluoedd yn cychwyn, o un i un, i weithfa'r Llywodraeth draw, lle y rhoddir digon o fwyd i brin gadw croen ar yr asgwrn, am waith. Y mae'r fam yn cario'r baban mewn basged ar ei phen, a phlentyn arall yn ei breichiau. Oluda'r tad a'r plant ereill holl eiddo'r teulu. Wedì cyrraedd y weithia, gwnant eu goreu i ennill ymborth trwy dorri cerrig; ond, er eu bod yn bwrw â'u morthwylion bychain goreu gallent, ychydig iawn o gerrig dorrai'r plant.

Yn Bombay yn unig y mae'r Llywodraeth yn cynnal cynifer a holl boblogaeth Cymru. Eu prif ofn yw i'r cholera ddilyn y newyn; eu gweddi sydd am wlaw. Os daw'r cholera, med adladd y newyn i'r bedd wrth y miloedd.