Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ystraeon yr Hen Gadfridog.

I.—YR HEN GADFRIDOG

Ymysg y teithwyr yr oedd hen ŵr bonheddig urddasol, a'r milwr i'w weld ym mhob osgo. Safai'n syth, cerddai'n gywir, edrychai'n llym a beirniadol, a hoffai weld popeth yn ei le. Yr oedd braidd yn wyllt ei dymer, a rhuthrai'r gwaed i'w wyneb os na fyddai wrth ei fodd. Ond hen ŵr ardderchog oedd. Anrhydeddai ei frenin, er nas gallai ei wasanaethu mwy; ymfalchiai pan welai faner Prydain mewn porthladd ar ol porthladd. Yr oedd wedi ymladd mewn llawer rhan o ymherodraeth ei frenin; a'r goron, ehangder yr ymherodraeth, a braint a dyledswydd y deiliaid hapus, oedd yn ei enau o hyd.

Iddo ef, ymladd oedd prif waith bywyd, a hela ei brif bleser. Ond hoffai Nest, er y gwyddai nas gallai hi ymladd.

Yr oedd yr hen begor wedi mynnu tipyn o fwyniant wrth wasanaethu ei frenin hefyd, yn enwedig wrth hela anifeiliaid gwylltion.

Siaradai â Nest weithiau fel pe byddai hi'n wladweinydd, weithiau fel pe byddai'n filwr. Ond yr oedd calon gynnes, serchog, yn curo yn ei fynwes, a chofiai ambell dro nad oedd hi ond geneth fach, ac esboniai bethau dyrus iddi. Felly, cofiodd Nest lawer o'r pethau ddywedodd ef wrthi.