Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O'r diwedd, gwthiwyd y dyrfa'n ol, ond nid oedd. olwg ar y plentyn yn unlle. Anfonodd y tad nodyn. o law i law at un o'r heddgeidwaid,—"Mae plentyn ar goll. Pump oed. Gwallt melyn. Cob ddulas. Bathodyn ar ei fron a'r geiriau, Duw a Chymru arno. Os ceir, anfoner i'r Gwesty Cymreig."

Pan ymryddhaodd y dorf, aeth y meddyg i'r gwesty. Ond nid oedd yr un ohonynt wedi gweld y plentyn; collasant olwg arno yn ystod y rhuthr. Cyn y nos, daeth gair oddiwrth yr heddgeidwaid fod y bychan wedi ei gael. Collasai olwg ar ei dad, ac nis gallai weld dim; yr oedd yn rhy fyrr, a'r dorf enfawr yn dynn yn eu gilydd o'i gwmpas. Dechreuodd wylo. Cododd rhywun ef ar ei ysgwyddau, ac o ysgwydd i ysgwydd anfonwyd ef ymlaen at y rheng o heddgeidwaid. Yn llaw yr heddgeidwad y bu, yn gweld popeth, tan aeth popeth drosodd. Daeth nodyn ei dad o law i law hyd reng hir yr heddgeidwaid nes ei gyrraedd. Felly cafwyd ef.

Nid oes ddinas yn y byd a'i phobl mor amyneddgar a phobl Llundain; ac y mae ei heddlu y rhai goreu yn y byd.

Lle eithaf diogel i blant ydyw, o ran hynny. Y mae hyd yn oed bechgyn carpiog ei heolydd yn hapus iawn.

V. YMAFLYD CODWM

Byddai ymaflyd codwm yn chwareu brenhinol unwaith. Ond yn awr, nid yw mewn bri ond ymysg gweision ffermwyr.